Am fendigedig! Hen esgid enfawr yn gorwedd yn yr ardd! Perffaith i ddwy lygoden fach i ailddefnyddio fel tŷ cynnes a chlyd. Ond, un diwrnod, mae hi'n dechrau bwrw glaw…ac o diar!..mae'n glawio…a glawio…a glawio! Cyn hir, mae’r esgid yn dechrau arnofio ar y dŵr gyda'r llygod a’u ffrindiau i gyd y tu mewn…ac i ffwrdd â nhw ar antur fawr yn yr esgid enfawr!
Mae’r cynhyrchiad swynol hwn yn defnyddio pypedau llaw, rhigymau a cherddoriaeth i archwilio cyfeillgarwch, rhannu a chydweithio.
Addas ar gyfer plant 3-8 mlwydd oed.
Ar gael tan fis Gorfennaf 2024.
Hyd y cynhyrchiad yw 45 munud a gwneir cais am 30 munud o amser paratoi.
Ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.