Beth sy'n digwydd lawr ar y fferm? Anrhefn llwyr! Nid yw'r ffermwr yn codi'n ddigon cynnar i fwydo'r moch, na godro'r gwartheg chwaith. Nid yw Mrs Ffal di Ral yn siwr faint o'r gloch ydi hi...amser brecwast?...amser cinio?...amser te falle? A beth am Ffion druan? Mae hi'n colli'r bwrs yr ysgol pob dydd. Beth sy o'i le? Cynan Ceiliog sydd ar fai! Nid yw byth yn canu ar yr amser iawn. Mae pob anifeiliaid ar y fferm yn cytuno...rhaid i Cynan Ceiliog ddysgu sut i ddweud yr amser!
Mae Fferm Ffal di Ral yn defnyddio pypedau llaw, perfformio byw a cherddoriaeth i archwilio cyfeillgarwch ac amynedd.
Cynhyrchiad cyfrwng cymraeg. Addas ar gyfer plant rhwng 3-8 oed.
Ar gael o fis Mawrth tan fis Gorffennaf 2025. 45 munud o hyd.